P-06-1447 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau’r ganolfan ymwelwyr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Kim Williams ôl casglu 2,422 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r gymuned leol ar ddeall bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu cau’r Ganolfan Ymwelwyr yn Ynyslas ddiwedd y flwyddyn hon. Mae hyn yn digwydd heb unrhyw ymgynghori, dim darpariaeth arall ar gyfer amddiffyn amgen y warchodfa natur, a cholli swyddi lleol.
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r sefydliad a ddylai fod yn gwarchod ein bywyd gwyllt a’n cymunedau, yn hytrach na’u dinistrio.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae'r ganolfan ymwelwyr yn Ynyslas yn hollbwysig o ran rheoli'r 400,000 o ymwelwyr y flwyddyn sy'n defnyddio'r safle. Mae bywyd gwyllt a chynefinoedd y warchodfa natur yn fregus, ac mae angen eu hamddiffyn rhag y nifer fawr yma o ymwelwyr, cerbydau a chŵn, os ydym am osgoi colli rhagor o fioamrywiaeth yng Nghymru.
Mae presenoldeb staff Cyfoeth Naturiol Cymru drwy gydol y flwyddyn yn y warchodfa yn golygu bod yna rwystr naturiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol (cynnau tanau, tipio anghyfreithlon, mynediad i gerbydau) ac yr aed i’r afael yn gyflym ac yn effeithlon gydag unrhyw achosion o’r fath.
Mae'r ganolfan yn darparu gwybodaeth ac addysg i bob ymwelydd, er mwyn iddyn nhw ddeall pam fod y lle yn arbennig, a pha effaith y mae eu gweithredoedd yn ei gael arno. At hynny, mae’n fan cyswllt cymdeithasol i’r gymuned leol, ac yn fan lle mae byd natur yn hygyrch i’r rheini sydd â symudedd cyfyngedig.
Mae rheolaeth effeithiol ar ymwelwyr yn Ynyslas yn hanfodol er mwyn amddiffyn y Warchodfa Natur a'i bywyd gwyllt.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Ceredigion
· Canolbarth a Gorllewin Cymru